Pam 'Arbed Ynni'?
1. Lleihau ein ôl troed carbon.
Pan ddefnyddiwn drydan, nwy ac olew, rydym yn rhyddhau CO2 i'r atmosffer, sydd yn cyflymu'r broses o newid hinsawdd. Mae hi'n bwysig felly ein bod yn defnyddio ynni'n effeithlon er mwyn gwneud popeth yn ein gallu i warchod ein daear, ein hanifeiliaid a'n planhigion.
2. Mae ein tanwyddau ffosil yn mynd i redeg allan un diwrnod, felly dylem arbed ynni er mwyn iddynt bara'n hirach.
Gan ei bod wedi cymryd miliynau o flynyddoedd i greu tanwydd ffosil yn y lle cyntaf, a'n bod yn defnyddio cymaint ohono erbyn hyn, nid yw'n bosib creu mwy o danwydd ffosil heb aros miliynau o flynyddoedd eto! Felly, unwaith y bydd ein tanwydd ffosil i gyd wedi'i ddefnyddio, bydd rhaid i ni ddefnyddio dulliau gwahanol o greu trydan i gynhesu ein cartrefi ac i yrru ein ceir.
Y mwyaf o danwydd y byddwn yn ei ddefnyddio heddiw, y cynharaf y bydd yn rhedeg allan! Felly, trwy ddefnyddio ynni'n ofalus, gallwn geisio gwneud i'r tanwydd ffosil sydd gennym ar ôl bara'n hirach.
Dim ond gwerth tua 40 mlynedd o olew sydd gennym ar ôl (mae hyn yn cynnwys petrol a diesel i'n ceir!); tua 65 mlynedd o nwy; a thua 200 mlynedd o gronfeydd glo.
3. Arbed arian!
Rydym yn gorfod talu am bob uned o ynni a ddefnyddiwn.
Felly, os byddem yn gwastraffu ynni yn gadael offer ymlaen yn ddiangen, bydd dal rhaid i ni dalu am yr ynni y mae'r offer yn ei ddefnyddio!
Mae costau ynni yn cynyddu bob blwyddyn ac, felly, hyd yn oed os ydym yn defnyddio yn union yr un faint o drydan eleni ag y gwnaethom y llynedd, byddai'n debygol o gostio mwy i ni.
Wrth gwrs, mae'r arian yr ydym yn ei wario ar ynni yn arian na fedrwn ei wario ar bethau eraill.
Tudalen nesaf - Arbed Ynni Gartref