Beth Yw Ynni?
Ynni yw'r gallu i wneud gweithgaredd, boed yn symudiad, sŵn, goleuo, gwresogi neu oeri.
Daw ynni/egni mewn gwahanol ffurfiau - gwres; golau; trydan; cemegol; niwclear; cinetig; a sŵn.
|
|
Mathau o Ynni
Rydym yn defnyddio dwy ffynhonnell wahanol i bweru pethau: ynni adnewyddadwy ac ynni anadnewyddadwy.
Ynni Adnewyddadwy
Daw ffynonellau ynni adnewyddadwy o bethau na fydd byth yn rhedeg allan, a gallwn eu defnyddio dro ar ôl tro. Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynnwys:
- Ynni solar o'r haul
- Ynni gwynt
- Pŵer dŵr o argae melinau dŵr
- Biomas o blanhigion
- Ynni geothermol o wres a ddaw o grombil y Ddaear
|
|
Rydym i gyd yn cael ein hannog i ddefnyddio mwy a mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan eu bod yn iachach i'n planed.
Ynni Anadnewyddadwy
Daw'r rhan fwyaf o'n hynni o ffynonellau ynni anadnewyddadwy, sef ffynonellau a fydd, rhyw ddiwrnod, yn rhedeg allan, ac na fyddwn yn medru eu hailgreu.
|
Mae'r rhain yn cynnwys y tanwyddau ffosil - olew, nwy naturiol a glo. Cânt eu galw'n danwyddau ffosil am eu bod wedi cael eu creu o ddeunyddiau planhigion ac anifeiliaid dros filiynau a miliynau o flynyddoedd.
Ffynhonnell ynni arall anadnewyddadwy yw Wraniwm. Mewn Gorsafoedd Ynni Niwclear (fel Wylfa a Trawsfynydd) caiff atomau Wraniwm eu hollti i greu trydan, mewn proses o'r enw holltiad niwclear.
|
Cawn ein hannog i ddefnyddio llai ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy, yn enwedig tanwyddau ffosil, gan eu bod yn mynd yn brin.
Tudalen nesaf - O Ble Daw Ynni?
Lluniau gan Freepik a Gregor Cresnar, oddi ar wefan www.flaticon.com