Sut Fedrwn Ni Arbed Ynni Yn Yr Ysgol?
|
|
Mae llawer o bethau y gallwn ei wneud i arbed ynni yn yr Ysgol.
Mae nifer ohonynt yn bethau bychain, lle nad ydym yn meddwl ein bod yn arbed llawer. Ond, pan mae llawer o bethau bychain yn cael eu gwneud i arbed ynni, gellir gwneud arbedion sylweddol yn y pen draw.
|
Diffodd offer ar ôl gorffen eu defnyddio:
Mae hyn yn cynnwys cyfrifiaduron, sgrin cyfrifiaduron, gliniaduron, goleuadau, argraffwyr ac ati. Os nad oes neb yn eu defnyddio - diffoddwch nhw!
Cofiwch ddiffodd offer yn y ffordd gywir, e.e. 'start' a 'shut down' ar gyfer cyfrifiaduron; uwchdaflunydd i'w roi ar fodd segur ('stand-by') gan fod angen i'r ffan aros ymlaen er mwyn oeri'r bwlb, ac ati (er mae modd eu diffodd yn llwyr wedi hynny er enghraifft ar ddiwedd y diwrnod, yn ystod y penwythnos a gwyliau ysgol).
|
Cadw'n Gynnes:
Mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud o amgylch yr ysgol er mwyn cadw'r gwres i mewn yn ystod y tymor gwresogi. Er enghraifft, os yw'r gwres ymlaen, dylid cadw pob drws a ffenestr ynghau. Os yw hi'n gorboethi, dylid gofyn i rywun droi'r gwres i lawr yn hytrach nag agor ffenestri!
Ffordd arall o gadw'n gynnes yw gwisgo'n addas ar gyfer y tywydd. Hynny yw, gwisgo siwmper os ydi hi'n oer!
|
|
|
Diffodd Goleuadau:
Dylid cofio diffodd y golau wrth adael ystafell yn wag, hyd yn oed am gyfnodau byr. Gallwn hefyd ddiffodd y golau os oes digon o olau naturiol yn yr ystafell.
Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus wrth ddiffodd goleuadau mewn coridorau gan fod llawer o fynd a dod yn y mannau hyn a gan nad yw'r switshys o fewn cyrraedd bob tro wrth ddod i mewn i'r coridor. Felly, yn aml, mae hi'n fwy diogel i adael goleuadau'r coridorau ymlaen nes bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gadael yr adeilad am y diwrnod.
|
Mae Ysgolion ar agor am 39 wythnos mewn blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod yr Ysgol ar gau am 13 wythnos y flwyddyn, neu'n cael ei ddefnyddio gan rai aelodau staff yn unig, neu ar gyfer rhai gweithgareddau yn rhannau o'r adeilad yn unig. Golyga hyn bod modd diffodd y rhan fwyaf o bethau yn ystod y cyfnod hwn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio gwneud hyn.
Defnyddiwch yr adnoddau isod i'ch helpu i ddarganfod ble mae ynni yn cael ei wastraffu yn yr Ysgol:
Ditectifs Ynni
Archwiliad Ynni
Tudalen nesaf - Pwy Sydd Yn Gyfrifol Am Arbed Ynni?
Lluniau gan Freepik o wefan www.flaticon.com