Pwy sydd yn Gyfrifol am Arbed Ynni?
Mae pob un ohonom yn gyfrifol am arbed ynni yn yr Ysgol. Rydym ni i gyd yn defnyddio offer trydanol yr Ysgol ac felly mae'n gyfrifoldeb arnom hefyd i'w diffodd. Yn aml, mae disgyblion, ac athrawon, yn credu mai'r Gofalwr sydd yn gyfrifol am hyn a bod y Gofalwr yn mynd o amgylch yr Ysgol ar ddiwedd y diwrnod i ddiffodd yr holl offer.
Nid yw hyn yn wir - nid oes gan y Gofalwr yr amser i fynd o amgylch yr Ysgol yn diffodd offer pawb! Mae oddeutu 200 o gyfrifiaduron mewn rhai Ysgolion Uwchradd - mwy na hynny mewn rhai ysgolion- ac felly ni fyddai'n dod i ben!
Mae'n bwysig fod PAWB yn cofio diffodd y cyfrifiadur y maent wedi bod yn ei ddefnyddio.
Dyna pam ei bod yn eithriadol o bwysig bod pawb yn cymryd y cyfrifoldeb i ddiffodd yr offer y mae o neu hi yn ei ddefnyddio.
Mae'r Gofalwr yn gyfrifol am reoli y gwres yn aml - felly os oes unrhyw broblemau gyda llefydd oer neu rhy boeth - gwnewch yn siŵr bod y Gofalwr yn derbyn neges am hyn.
Tudalen nesaf - Sut i Ddarllen Mesurydd