Cynllun Rheoli Carbon
Ers 2010, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithredu Cynllun Rheoli Carbon er mwyn lleihau'r effaith y mae ein gweithgareddau yn ei gael ar ein hamgylchedd.
Hyd yma, mae'r Cyngor wedi llwyddo i leihau ei ôl troed carbon o 34.5%, ac wedi arbed £4m mewn costau refeniw.
Rydym wedi gwneud hyn drwy weithredu nifer o brosiectau i leihau'r angen i ddefnyddio ynni; trwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a thrwy ddefnyddio ynni adnewyddol. Ceir rhagor o fanylion am y prosiectau hyn ar y dudalen nesaf.
Y cam nesaf yw lleihau ein ôl troed carbon ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.
Cyngor Carbon Isel yw’r cam cyntaf at Wynedd Garbon Isel
Oes gennych chi syniad am sut y gallwn leihau ein ôl troed carbon? Rhannwch eich syniadau â ni drwy gwblhau'r holiadur Gwynedd Carbon Isel.
Tudalen nesaf - Prosiectau Cyngor Gwynedd